#
Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:
Rhif y ddeiseb: P-05-862 Teitl y ddeiseb: Mynd i'r afael â bwlio mewn ysgolion Testun y
ddeiseb: Rydym yn credu bod achosion o fwlio mewn ysgolion yn
cael eu hanwybyddu’n aml ac nad yw’r mater yn cael ei
wynebu mewn gormod o achosion. Mae’n ofynnol i ysgolion fod
â pholisi gwrth-fwlio ond, yn rhy aml, datganiad gwaith papur
yn unig yw hyn na weithredir arno.
|
1. Y cefndir
Dyletswyddau cyfreithiol
Mae dyletswydd gyfreithiol ar bob ysgol yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw fath o fwlio yn cael ei drin yn effeithiol. Mae ystod o ddeddfwriaeth sy'n berthnasol i Gymru sydd â'r nod o amddiffyn plant a phobl ifanc rhag camdriniaeth, gan gynnwys bwlio. Mae'r ddeddfwriaeth bresennol sy'n berthnasol i fwlio yn cynnwys: Deddf Cydraddoldeb 2010; Deddf Addysg ac Arolygiadau 2006; Deddf Plant 2004; Deddf Addysg 2002; Deddf Llywodraeth Cymru 1998; Deddf Hawliau Dynol 1998; Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011.
O dan adran 89 o Ddeddf Addysg ac Arolygiadau 2006, mae'n ofynnol i benaethiaid ysgolion a gynhelir bennu mesurau i annog ymddygiad da ac atal pob math o fwlio ymhlith dysgwyr. Mae rhai ysgolion yn dewis cynnwys y wybodaeth hon mewn polisi gwrth-fwlio tra bod eraill yn ei chynnwys yn eu polisi ymddygiad. O dan Ddeddf 2006, mae'n rhaid i bob ysgol gael polisi ymddygiad yn ôl y gyfraith.
Canllawiau
Yng Nghymru, mae canllawiau a chylchlythyrau Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ddeddfwriaeth. Nid yw'r rhain yn gosod dyletswyddau cyfreithiol yn uniongyrchol, ond maent yn rhoi arweiniad i awdurdodau lleol ac ysgolion ar sut i weithredu polisïau bwlio o ddydd i ddydd. Bwriad y canllawiau yw cefnogi'r gwaith o gyflawni'r dyletswyddau cyfreithiol.
Yn unol â Parchu Eraill: Canllawiau Gwrth-fwlio Llywodraeth Cymru (Medi 2003), mae'n rhaid i benaethiaid a chyrff llywodraethu gael polisi i atal pob math o fwlio ymhlith disgyblion, a hynny yn ôl y gyfraith. Mae'r cylchlythyr yn nodi'r mathau o wybodaeth y dylid eu cynnwys o fewn polisi ysgol a sut y gall ysgolion fynd i'r afael â bwlio.
Mae'r cylchlythyr hefyd yn nodi y dylai uwch aelod o staff oruchwylio'r polisi; bod egwyddorion y polisi yn cael eu hadnewyddu'n rheolaidd er mwyn parhau i atgoffa disgyblion a staff; ac y dylai corff llywodraethu'r ysgol adolygu'r polisi yn flynyddol i sicrhau ei fod yn effeithiol.
Mae'r cylchlythyr yn awgrymu y dylai ysgolion gadw cofnodion cywir o achosion o fwlio ac ymateb yr ysgol.
Yn 2011, ychwanegodd Llywodraeth Cymru at y cylchlythyr gyda chyfres o ddeunyddiau gwrth-fwlio sy'n darparu arweiniad ac atebion ymarferol ar atal ac ymateb i achosion o fwlio mewn ysgolion.
2. Ymgynghoriad cyfredol Llywodraeth Cymru
Ar 14 Tachwedd 2018, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar ganllawiau drafft i herio bwlio mewn ysgolion. Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 14 Chwefror 2019. Nod y canllawiau diwygiedig yw:
§ Creu canllawiau cliriach, haws eu defnyddio, wedi'u targedu at y cynulleidfaoedd allweddol (ysgolion, llywodraethwyr, awdurdodau lleol, rhieni, plant a phobl ifanc);
§ Esbonio'r agweddau allweddol yn gliriach (gan gynnwys rolau a chyfrifoldebau a chofnodi a monitro digwyddiadau);
§ Sicrhau bod y canllawiau'n cwmpasu pob math o fwlio;
§ Mynd i'r afael â bwlio mewn ffordd fwy cyfannol, gan sicrhau bod y canllawiau'n adlewyrchu polisïau a diwygiadau ehangach sydd ar waith eisoes a rhai a gyflwynir yn y dyfodol;
§ Cynnwys a chyfeirio at adnoddau gwrth-fwlio yn y canllawiau i helpu ysgolion i roi'r polisi ar waith ar lefel weithredol.
Mae'r canllawiau drafft, diwygiedig yn cynnwys adran ar gofnodi a monitro. Mae'n dweud:
Dylai ysgolion gael trefniadau yn eu lle er mwyn adrodd am a chofnodi bwlio ac ymddygiad gwael. Drwy gynnal a chadw cofnodion effeithiol mae’n galluogi ysgolion i wirio os oes adroddiadau eraill am y dysgwyr, a gwneud penderfyniad am yr hyn sydd wedi ei gofnodi mewn dull cyfannol a gwybodus. Gall ysgolion adnabod patrymau ymddygiad ac ehangder y bwlio drwy fonitro digwyddiadau, a chymryd camau rhagweithiol i’w herio.
Mae'n mynd ymlaen i nodi y dylai ysgolion gofnodi pob achos o fwlio gan amlinellu'r mathau penodol o fwlio, gan gynnwys bwlio sy'n ymwneud â'r nodweddion gwarchodedig a fydd yn helpu ysgolion i gefnogi Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Mae'r canllawiau'n nodi mai'r ysgolion unigol fydd yn penderfynu pa ddata a gwybodaeth a gesglir ganddynt yng nghyd-destun materion penodol eu hysgolion.
3. Adroddiad Comisiynydd Plant Cymru
Ar 16 Gorffennaf 2017, cyhoeddodd Comisiynydd Plant Cymru Stori Sam, Gwrando i brofiadau plant a phobl ifanc o fwlio yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys y blaenoriaethau a ganlyn i Lywodraeth Cymru er mwyn sicrhau gwelliant:
§ Dylai Llywodraeth Cymru osod dyletswydd statudol ar ysgolion i gofnodi pob digwyddiad a’r mathau o fwlio sy’n cael eu nodi. Mae hyn yn golygu y bydd angen diffiniad clir o fwlio, i’w gytuno wedi ymgynghoriad llawn gyda phlant a phobl ifanc;
§ Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod addysg am hawliau plant yn elfen orfodol o'r cwricwlwm.
Mae ymgynghoriad Llywodraeth Cymru yn nodi bod adroddiad y Comisiynydd Plant wedi llywio'r gwaith o ddrafftio'r canllawiau diwygiedig.
Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Yn 2017, ystyriodd y Pwyllgor Deisebau y ddeiseb, P-05-752 Meithrin gallu plant i wrthsefyll seiberfwlio. Er i'r Pwyllgor gael ymateb gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, ni roddodd y Deisebydd unrhyw ymateb pellach a chytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb.
Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol. |